EisteddLe?!
Her Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ddydd Gwener, 29 Ebrill, bydd disgyblion Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Caerdydd, yn cymryd rhan mewn her a hanner - i eistedd ar bob sedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn wir, bydd plentyn neu oedolyn o gymuned yr ysgol yn eistedd ar bob un o'r 33,280 o seddi!
Gyda'r stadiwm dafliad carreg o'r ysgol, dyma gyfle gwych i'r plant godi arian i Ffrindiau Ysgol Pwll Coch, ac felly i'r ysgol, yn ogsytal â chael cyfle i ymweld â stadiwm eu tîm lleol.
Gwerthfawrogwn bob ceiniog, a bydd unrhyw swm y gallwch ei gyfrannu yn mynd tuag at brynu adnoddau i'n helpu i ddatblygu ardaloedd cynhwysol a hygyrch newydd a fydd yn hybu iechyd a lles disgyblion, a rhoi cyfle iddynt dyfu a ffynnu ymhellach.
Mae croeso ichi ychwanegu neges i ddymuno'n dda wrth ichi gyfrannu - byddai'n syniad da defnyddio enwau cyntaf neu lythrennau cyntaf enwau yn hytrach nag enwau llawn!
Am fwy o wybodaeth am Ffrindiau Pwll Coch: www.ygpc.cymru/ffrindiau-pwll-coch/
The Big Sit Down!
Cardiff City Stadium Challenge!
On Friday, 29th April, the pupils of Ysgol Gymraeg Pwll Coch, Cardiff, will be taking part in a mammoth fundraising challenge - to sit on every seat within the Cardiff City Stadium. Yes, a child or member of the Pwll Coch community will sit on every one of the 33,280 seats in the stadium!
This will be a fantastic opportunity for the pupils to get involved and help raise money for Ffrindiau Ysgol Pwll Coch (PTA) in addition to visiting their local team's stadium!
We appreciate every penny to help fund resources to develop new accessible and inclusive areas on the school site - areas that will support pupil health and wellbeing and provide opportunities for them to grow and flourish further.
You can add a good luck message with your donation - we'd advise you use first names or initials only when adding specific messages.
More info about Ffrindiau Pwll Coch: www.ygpc.cymru/ffrindiau-pwll-coch/